Sunday, 27 March 2011

Ar Gof a Chadw - Ail Albwm (18.04.11)


Noswaith Dda,
Gobeithio nath pawb cofio troi'r clociau mlaen bore ma a llenwi'r Census fewn hefyd wrth gwrs!! Oddi hi sicr yn gysur i mi weld hi'n dal i fod yn olau hyd at 8 o'r gloch heno ma. Mae'r gwanwyn gobeithio ar y gweill rwan. Dwi nol yng Nghaerdydd heddiw ma gan fy mod i ag Arwel a Sion am recordio sesiwn acwstig ar gyfer C2 Radio Cymru pnawn fory a ddylse fod yn mynd allan ar rhaglen Huw Stephens wythnos i fory sef Nos Lun, 4ydd o Ebrill. Da ni am neud cwpl o hen ganeuon a cwpl o rhei newydd oddi ar 'Ar Gof a Chadw' fel rhagflas at y dyddiad rhyddhau o'r 18ed o Ebrill. Mae'n dod at adeg eithaf cyffroes i ni fel band rwan, da ni'n cychwyn giggio unwaith eto wythnos nesa, yn cychwyn yn 'Y Llangollen' ym Mhethesda ar nos Wener ac yne'n mynd draw i'r Whitehall ym Mhwllheli ar nos Sadwrn yr 2il o Ebrill. Mae'r gigs ma yn rhei o'r rhei cyntaf lle fydde ni'n chwarae deunydd newydd oddi ar yr ail albwm ac mae o hyd yn sefyllfa ddiddorol i fod ynddo fel band pryd ydech chi'n rhoi caneuon newydd yn y set i weld beth fydd ymateb pobl iddynt. Er fod y caneuon yn eithaf gyfarwydd i ni erbyn hyn, wrth gwrs does lawer o neb arall wedi'w clywed nhw tu allan i ni'n pedwar!
Felly os ydech chi o gwmpas penwythnos nesaf - dewch yn llu i barnu'r caneuon newydd!

Os hoffech chi rhag-archebu eich copi o 'Ar Gof a Chadw' mi ellwch chi neud rwan oddi ar y wefan Sadwrn.com. Fedrwch chi hefyd darllen cyfweliad nathom ni efo'r cylchgrawn 'Y Selar' yn eu rhifyn diweddaraf (Ebrill 2011) sydd ar gael i'w ddarllen ar-lein oddi ar y wefan http://www.y-selar.com/

Hwyl am y tro
Al, Arwel, Sion a CJ xx

Friday, 18 February 2011

Dŵr yn y Gwaed

Helo Pawb,
Dyma ni rhagflas i chi o'r albym newydd, 'Dŵr yn y Gwaed' allan Ebrill 18ed ar Rasal.
Dŵr yn y Gwaed by allewismusic
Mwynhewch
Al

Monday, 18 October 2010

Gwyl Swn yn fuan......



Dim ond 5 diwrnod sydd na i fynd tan ein gig yn Y Globe ar Albany Rd, Caerdydd efo Bryn Fon a Gildas. Da ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i chwarae gwyl 'Swn' unwaith eto am y drydedd flwyddyn erbyn hyn!

Am ragor o wybodaeth ewch i:
Tocynnau ar gael oddiwrth:

Wednesday, 29 September 2010

Froncysyllte / Albym Newydd




Helo Bawb,

Dyma llun o ni yn Froncysyllte dros y Haf pan oeddem ni yn ffilmio ar gyfer y gyfres newydd o 'Nodyn'.
Dros y Haf rhyddhawyd albym newydd Arwel (Gildas) - sef 'Nos Da'
Ewch draw i'w wefan sef - http://www.myspace.com/gildasmusicuk - am ragor y wybodaeth
Wythnos nesaf fydde ni nol ym Mhryn Derwen, Bethesda i cwblhau ein ail albym Cymraeg ni (di-enw ar hyn o bryd)
Felly cadwch eich clustiau yn agored yn barod am ragor o wybodaeth

Hwyl

Al a'r Bois



Tuesday, 18 May 2010

Gig yn Nhafarn yr Haul - Llanengan (Hel pres ar gyfer MS)


Noson i hel pres ar gyfer cangen Gwynedd/Ynys Mon o'r MS Society.
Dewch draw i Tafarn yr Haul yn Llanengan
Mynediad am Ddim -
Unrhyw cyfraniad/rhodd yn wirfoddol ac yn ddiolchgar!!
Croesi ein bysedd am noson braf!!
(welwch tudalen Facebook am fanylion bellach)

http://bit.ly/bm8vLe
.................

Evening to raise money for the Gwynedd/Anglesey Branch of the MS Society at the Sun Inn, Llanengan
No Entry Fee -
Any donations are voluntary and much appreciated!!
Fingers crossed for sunny weather
(see Facebook Event Page for details)
http://bit.ly/bm8vLe

Thursday, 22 April 2010

O'r Stafell Fyw - C2 Radio Cymru


Gaethom ni wahoddiad gan Mr Owen Powell i ddod fewn i'r Ystafell Fyw yn ystod mis Mawrth.
Cewch glywed y canlyniad i fyny ar wefan C2 rwan, yn cynnwys 2 gan newydd oddi ar ein albym nesaf.

http://www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/safle/yrystafellfyw/orielau/rhaglen05.shtml

Wednesday, 10 March 2010

Gig Canolfan Cymru Llundain / London Welsh Centre Gig



Nathom ni gig wedi'w trefnu gan Huw Stephens efo Huw M diwedd mis Chwefror ar gyfer dathliadau Dydd Gwyl Dewi.
Dyma ychydig o luniau nath Aled Llywelyn cymryd o'r gig.
Ewch i http://www.aledllywelyn.co.uk/?p=244 am ragor o wybodaeth