Dyma'r adeg o'r
flwyddyn lle mae pobl yn dueddol o edrych nol. Gweithgaredd da ni fel
band yn gyfarwydd iawn efo erbyn hyn, gan fod ein albwm 'Ar Gof a
Chadw', ddoth allan yn 2011 wedi ei seilio ar yr syniad yma o edrych
nol, a'r teimlad o berthyn a sut mae hyn yn newid wrth i ni fynd yn
hŷn.
Mae hi'n flwyddyn
bellach ers i ni gwblhau'r albwm hon a mae hi di bod yn flwyddyn
lwyddiannus i ni fel band yn 2011. I orffen y cwbl ddoe; cafo ni'r
newyddion gwych ein bod ni wedi dod i’r brig yn 'Siart C2' y
flwyddyn (2011), anrhydedd mawr o gysidro'r holl gynnyrch da Cymraeg
sydd wedi ei ryddhau yn ystod blwyddyn dwetha.
Mi nath hyn
sbarduno'r awen i mi ysgrifennu blog newydd, wedi i mi sylweddoli fod
hi'n 6 mis ers y blog dwethaf! Fel mae amser yn mynd heibio!
Ar ddiwedd y blog dwetha oni di son am y ffaith ein bod ni wedi bod yn brysyr yn ffilmio ym Mhrestatyn ar gyfer y gyfres diweddaraf (bellach olaf!) o 'Nodyn'.
Cafodd y gyfres
honno ei darlledu dros yr haf ac roedd yr oriau dreuilwyd yn sefyll
yn yr oerni ar glaw wedi bod yn werth chweil wedi i ni weld y rhaglen
orffenedig. Hefyd fe perfformio ni 'Darlun' ar Wedi7 - http://youtu.be/Zhpk-c1FfrM
Gafo ni glywed hefyd fod S4C am ddefnyddio'r gan 'Darlun' ar gyfer hysbysebu digwyddiadau'r sianel dros yr haf!
Ym mis Gorffennaf
aethom ni draw i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd i rhoi cymorth i grwp
o ddisgyblion a oedd newydd cychwyn band o'r enw 'Tiwn', da oedda nhw
fyd!
Ges i hefyd y cyfle
i fynd i'r Sioe Frenhinol am y tro cyntaf yn fy mywyd – diddorol
iawn oedd o hefyd!!
Mis Awst a
Eisteddfod Wrecsam!
Cychwyno ni ar Nos
Lun yn y Pafiliwn efo'r 'Cyngerdd Clasuron Pop' yng nghwmni rhai o
gewri'r sin fel CPJ, Meic a Chis, ma hwn hefyd ar clic!
Llanwyd gweddill yr
wythnos wedyn hefo cymysgedd o berfformiadau ar y maes a hefyd
cyngherddau yn y nos ar gyfer 'Cymdeithas yr Iaith' a Maes B wrth
gwrs! Nos Fercher welodd y cynifer mwyaf o gigs i Sion Llwyd ar y bas
– 3 set mewn 1 noson (a 5 arall yn y dydd) – phew!!!
Yn mis Medi wedyn
cafodd 'Ar Gof a Chadw' ei lawnsiad cenedleuthol llawn a ddoth Shan
Cothi draw i ngweld i yn Llundain ar gyfer y gyfres Bro a oedd yn
trafod Cymru Llundain!
Ges i wahoddiad
hefyd yn mis Medi fewn i stiwdios Gofod i weld Elen a Geth i drafod y
ffaith fod fy albwm Saesneg 'In the Wake' wedi cyrraedd y rhestr-fer
ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg gyntaf!
Yn mis Hydref
chwaraeo ni set yng Nghwyl Sŵn yng Nghaerdydd a gafo ni ymateb
ffafriol gan y Wasg di-Gymraeg ar ffurf y cylchgrawn MMP a ddewisiodd
'Ar Gof a Chadw' fel 'Albwm y Mis'.
http://themmp.tv/reviews/al-lewis-band-ar-gof-a-chadw/
Yn mis Tachwedd
perfformiodd y band fel rhan o noson arbennig yn Eglwys St Ioan yn
Nhreganna, Caerdydd gyda Zervas & Pepper a Ivan Moult. Lleoliad
gwych ar gyfer cerddoriaeth acwstig!
Ym mis Rhagfyr gafo
ni wahoddiad i fod yn westeion ar raglen Dolig C2 Huw Stephens ble
perfformio ni bedair cân yn cynnwys 1 gân newydd Nadoligaidd
gwreiddiol o'r enw 'Clychau'r Ceirw'.
Fe allwch wylio
fideos or noson yn eu cyfanrwydd drwy fynd draw i:
Mi oedd hi hefyd yn
fraint cael rhannu'r llwyfan am y tro cyntaf efo un o'n arwyr ni o'n
plentyndod Gruff Rhys!
Aeth fi ag Arwel
hefyd fyny i Langollen i gymryd rhan yn y cyngerdd carolau ar gyfer
Ty Gobaith. Oedd hi'n sicr yn noson oer gaeafol lle oni'n falch mod i
wedi prynnu'r siwmper i gadw fi'n gynnes tra ar y llwyfan!
Ges i gyfle unwaith
eto i ddod ar siwmper allan pan gafo ni alwad i fod ar raglen Huw
Edwards 2011 – perfformwyd 'Darlun' wrth i'r panel drafod
digwyddiadau'r flwyddyn a fu.
Dwi newydd sylwi fod hi'n reit hir ers i mi sgwennu rhywbeth fyny fan hyn yn y Gymraeg.
Felly nai gychwyn drwy son am y sesiwn oedde ni ar fin neud y tro dwetha i mi siarad efo chi.
Mi es i a'r hogie fewn i BBC Radio Cymru fel gwesteion ar raglen C2 Huw Stephens lle nathom ni berfformio pedair cân. Fe allwch wrando arnynt yn eu gyfanrwydd drwy fynd draw i: http://bbc.in/kIbkQE
Yr wythnos wedyn ges i'r anrhydedd o ennill y wobr am 'artist gwrywaidd' y flwyddyn yng nghwobrau RAP Radio Cymru - http://bbc.in/dWVFFc
a natho ni gychwyn drwy fynd draw i'r BBC yng Nghaerdydd unwaith eto! Tro ma oedde ni yne fel gwesteion Dafydd a Caryl sy'n cyflwyno'r rhaglen yn y bore (http://bbc.in/mdliSJ). Yn y pnawn wedyn aetho ni draw i Lanelli er mwyn perfformio ar y rhaglen Wedi 7.
Ym mis Mai natho ni perfformio cryn dipyn o gwmpas Cymru. Ar y penwythnos gwyl y banc oedde ni'n brysyr yn ffilmio ar gyfer y gyfres newydd o 'Nodyn' o le mae'r lluniau uchod'n dod o. Gan fod yr albwm yn son am y syniad o berthyn a'r teimlad o hiraeth mae rhywun yn gael wrth hel hen atgofion a edrych drwy hen luniau mi nath y tîm cynhyrchu dod fyny efo'r syniad o cael gyfres o hen luniau i ddod fyny ar y van tu ol i ni wrth i ni ganu.
Dwi'n edrych ymlaen i weld syt neith o droi allan!!
Dros y mis nesa ma rwan mi fydde ni'n perfformio ym mhob cornel o Gymru. O Bwllheli hyd at Pontardawe, ewch draw i'r dudalen gigs i weld lle byddwn ni a phryd!
Gobeithio nath pawb cofio troi'r clociau mlaen bore ma a llenwi'r Census fewn hefyd wrth gwrs!! Oddi hi sicr yn gysur i mi weld hi'n dal i fod yn olau hyd at 8 o'r gloch heno ma. Mae'r gwanwyn gobeithio ar y gweill rwan. Dwi nol yng Nghaerdydd heddiw ma gan fy mod i ag Arwel a Sion am recordio sesiwn acwstig ar gyfer C2 Radio Cymru pnawn fory a ddylse fod yn mynd allan ar rhaglen Huw Stephens wythnos i fory sef Nos Lun, 4ydd o Ebrill. Da ni am neud cwpl o hen ganeuon a cwpl o rhei newydd oddi ar 'Ar Gof a Chadw' fel rhagflas at y dyddiad rhyddhau o'r 18ed o Ebrill. Mae'n dod at adeg eithaf cyffroes i ni fel band rwan, da ni'n cychwyn giggio unwaith eto wythnos nesa, yn cychwyn yn 'Y Llangollen' ym Mhethesda ar nos Wener ac yne'n mynd draw i'r Whitehall ym Mhwllheli ar nos Sadwrn yr 2il o Ebrill. Mae'r gigs ma yn rhei o'r rhei cyntaf lle fydde ni'n chwarae deunydd newydd oddi ar yr ail albwm ac mae o hyd yn sefyllfa ddiddorol i fod ynddo fel band pryd ydech chi'n rhoi caneuon newydd yn y set i weld beth fydd ymateb pobl iddynt. Er fod y caneuon yn eithaf gyfarwydd i ni erbyn hyn, wrth gwrs does lawer o neb arall wedi'w clywed nhw tu allan i ni'n pedwar!
Felly os ydech chi o gwmpas penwythnos nesaf - dewch yn llu i barnu'r caneuon newydd!
Os hoffech chi rhag-archebu eich copi o 'Ar Gof a Chadw' mi ellwch chi neud rwan oddi ar y wefan Sadwrn.com. Fedrwch chi hefyd darllen cyfweliad nathom ni efo'r cylchgrawn 'Y Selar' yn eu rhifyn diweddaraf (Ebrill 2011) sydd ar gael i'w ddarllen ar-lein oddi ar y wefan http://www.y-selar.com/
Dim ond 5 diwrnod sydd na i fynd tan ein gig yn Y Globe ar Albany Rd, Caerdydd efo Bryn Fon a Gildas. Da ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i chwarae gwyl 'Swn' unwaith eto am y drydedd flwyddyn erbyn hyn!
Dyma llun o ni yn Froncysyllte dros y Haf pan oeddem ni yn ffilmio ar gyfer y gyfres newydd o 'Nodyn'. Dros y Haf rhyddhawyd albym newydd Arwel (Gildas) - sef 'Nos Da' Ewch draw i'w wefan sef - http://www.myspace.com/gildasmusicuk - am ragor y wybodaeth Wythnos nesaf fydde ni nol ym Mhryn Derwen, Bethesda i cwblhau ein ail albym Cymraeg ni (di-enw ar hyn o bryd) Felly cadwch eich clustiau yn agored yn barod am ragor o wybodaeth