Wednesday 12 February 2014

Albwm Newydd - Heulwen o Hiraeth

Yn ystod y broses o recordio'r albwm newydd yma, un peth a oedde ni gyd yn ffeindio hi'n anodd credu oedd y ffaith fod hi'n 3 mlynedd bellach ers i ni rhyddhau 'Ar Gof a Chadw'...fel ma amser yn fflio!

Cychwyno ni'r gwaith (fi ag Arwel) o fynd ati i sgwennu'r caneuon nol yn mis Awst 2012 wedi'r gemau Olympaidd dod i ben. Gafo ni rhyw 3 neu 4 o sesiynnau sgwennu unai yma yn Llundain neu yn Llanelli lle mae Arwel yn byw, aethom ni hefyd nol i Solffach yn Sir Benfro am dridiau lle sgwenno ni cwpl o'r caneuon oddi ar yr albwm dwetha. Natho ni dreulio 2 ddiwrnod yn y MusicBox yng Nghaerdydd yn cyflwyno'r caneuon i Sion a CJ sef y hogie sy'n chwarae bas a dryms. Gan ein bod ni fewn y noson ar ol Gŵyl San Steffan gafo ni'r lle i ni'n hunain!!

Ath ni ati i gychwyn recordio ar yr 2il o Ionawr yn stiwdio Mei Gwynedd (Sibrydion) yng Nghaerdydd. Dyma fo'r dyn ei hun...


Arwel yn trio allan y banjo...!



Yn gyntaf recordwyd y dryms, bas a'r gitar acwstig i gyd efo'i gilydd yn fyw.



Tra o ni'n canu yn y stafell bach yma efo'r enwogion ar y wal...!

 
Yn y gorffenol da ni wedi gwahodd unigolion fel Meic Stevens a Elin Fflur i ganu ar un o'r caneuon ar yr albwm. Tro yma dwi'n falch o fedru deud mai Gwyneth Glyn fydd yn ymddangos. Dwi'n hoff iawn o'r ddeuawd ac mai sicr un o'n hoff ganeuon i o'r casgliad.
Gafo ni hefyd Gareth Thorrington i chwarae'r allweddellau a Lucy Morgan i chwarae'r fiola.  

 
Am y tro cyntaf ar yr albwm yma hefyd da ni wedi cynnwys caneuon pobl eraill.
Yn hytrach na datgelu be yn union da ni wedi dewis mi wnai adael i chi ddyfalu efo bach o gymorth....ma'r dewis cyntaf yn dod o albwm sy'n dathlu 40 mlynedd yn 2014 ers iddo cael ei rhyddhau - dyma'r darlun enwog oedd ar y clawr


 Ma'r ail gan yn gysyllstiedig efo...


ac yn olaf ma genno ni rhywbeth gan y hogie yma -


Wedyn ar y penwythnos olaf ddoth Sarah Howells (Paper Aeroplanes) i fewn er mwyn rhoi ychydig o leisiau cefndir lawr. Ar yr rhu'n pryd gwahoddwyd criw rhaglen Heno (S4C) fewn i weld syt oedde ni'n dod mlaen efo'r recordio.

Mae'r caneuon bellach yn nhwylo Llion Robertson sy'n gyfrifol am eu cymysgu nhw.
Unwaith ma'r broses yna di dod i ben fydd rhaid mastro a wedyn fydd y prosiect wedi'w gwblhau.
Dwi'n edrych mlaen yn fawr iawn at rhyddhau ein drydydd albwm Cymraeg a'n bwysicach fyth medru ychwanegu caneuon newydd i fewn i'r set byw...!!