Croeso i 2012!
Dyma'r adeg o'r
flwyddyn lle mae pobl yn dueddol o edrych nol. Gweithgaredd da ni fel
band yn gyfarwydd iawn efo erbyn hyn, gan fod ein albwm 'Ar Gof a
Chadw', ddoth allan yn 2011 wedi ei seilio ar yr syniad yma o edrych
nol, a'r teimlad o berthyn a sut mae hyn yn newid wrth i ni fynd yn
hŷn.
Mae hi'n flwyddyn
bellach ers i ni gwblhau'r albwm hon a mae hi di bod yn flwyddyn
lwyddiannus i ni fel band yn 2011. I orffen y cwbl ddoe; cafo ni'r
newyddion gwych ein bod ni wedi dod i’r brig yn 'Siart C2' y
flwyddyn (2011), anrhydedd mawr o gysidro'r holl gynnyrch da Cymraeg
sydd wedi ei ryddhau yn ystod blwyddyn dwetha.
Mi nath hyn
sbarduno'r awen i mi ysgrifennu blog newydd, wedi i mi sylweddoli fod
hi'n 6 mis ers y blog dwethaf! Fel mae amser yn mynd heibio!
Gafo ni gychwyn da i 2011 hefo'r newyddion ein bod am fod ar glawr 'Y Selar' ar gyfer rhifyn cyntaf y flwyddyn - http://www.y-selar.com/products/rhifyn-ebrill-11-/
Ym mis Ebrill
enillon ni'r wobr RAP am artist gwrywaidd y flwyddyn a lawnsiad
swyddogol ar gyfer 'Ar Gof a Chadw'.
Aethom ni hefyd,
fel gwesteion ar rhaglen C2 Huw Stephens a neud set acwstig iddo -
Ar ddiwedd y blog dwetha oni di son am y ffaith ein bod ni wedi bod yn brysyr yn ffilmio ym Mhrestatyn ar gyfer y gyfres diweddaraf (bellach olaf!) o 'Nodyn'.
Cafodd y gyfres
honno ei darlledu dros yr haf ac roedd yr oriau dreuilwyd yn sefyll
yn yr oerni ar glaw wedi bod yn werth chweil wedi i ni weld y rhaglen
orffenedig.
Hefyd fe perfformio ni 'Darlun' ar Wedi7 - http://youtu.be/Zhpk-c1FfrM
Hefyd fe perfformio ni 'Darlun' ar Wedi7 - http://youtu.be/Zhpk-c1FfrM
Yn mis Mehefin gafo
ni gyfres o perfformiadau byw ac hefyd ar gyfer y teledu gan gynnwys
'Ar Gamera' a 'Noson Lawen' sydd dal ar clic gyda llaw! -
http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?programme_id=496955624
Gafo ni glywed hefyd fod S4C am ddefnyddio'r gan 'Darlun' ar gyfer hysbysebu digwyddiadau'r sianel dros yr haf!
Ym mis Gorffennaf
aethom ni draw i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd i rhoi cymorth i grwp
o ddisgyblion a oedd newydd cychwyn band o'r enw 'Tiwn', da oedda nhw
fyd!
Ges i hefyd y cyfle
i fynd i'r Sioe Frenhinol am y tro cyntaf yn fy mywyd – diddorol
iawn oedd o hefyd!!
Mis Awst a
Eisteddfod Wrecsam!
Cychwyno ni ar Nos
Lun yn y Pafiliwn efo'r 'Cyngerdd Clasuron Pop' yng nghwmni rhai o
gewri'r sin fel CPJ, Meic a Chis, ma hwn hefyd ar clic!
Llanwyd gweddill yr
wythnos wedyn hefo cymysgedd o berfformiadau ar y maes a hefyd
cyngherddau yn y nos ar gyfer 'Cymdeithas yr Iaith' a Maes B wrth
gwrs! Nos Fercher welodd y cynifer mwyaf o gigs i Sion Llwyd ar y bas
– 3 set mewn 1 noson (a 5 arall yn y dydd) – phew!!!
Yn mis Medi wedyn
cafodd 'Ar Gof a Chadw' ei lawnsiad cenedleuthol llawn a ddoth Shan
Cothi draw i ngweld i yn Llundain ar gyfer y gyfres Bro a oedd yn
trafod Cymru Llundain!
Ges i wahoddiad
hefyd yn mis Medi fewn i stiwdios Gofod i weld Elen a Geth i drafod y
ffaith fod fy albwm Saesneg 'In the Wake' wedi cyrraedd y rhestr-fer
ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg gyntaf!
Yn mis Hydref chwaraeo ni set yng Nghwyl Sŵn yng Nghaerdydd a gafo ni ymateb ffafriol gan y Wasg di-Gymraeg ar ffurf y cylchgrawn MMP a ddewisiodd 'Ar Gof a Chadw' fel 'Albwm y Mis'. http://themmp.tv/reviews/al-lewis-band-ar-gof-a-chadw/
Yn mis Tachwedd
perfformiodd y band fel rhan o noson arbennig yn Eglwys St Ioan yn
Nhreganna, Caerdydd gyda Zervas & Pepper a Ivan Moult. Lleoliad
gwych ar gyfer cerddoriaeth acwstig!
Ym mis Rhagfyr gafo
ni wahoddiad i fod yn westeion ar raglen Dolig C2 Huw Stephens ble
perfformio ni bedair cân yn cynnwys 1 gân newydd Nadoligaidd
gwreiddiol o'r enw 'Clychau'r Ceirw'.
Fe allwch wylio
fideos or noson yn eu cyfanrwydd drwy fynd draw i:
Mi oedd hi hefyd yn
fraint cael rhannu'r llwyfan am y tro cyntaf efo un o'n arwyr ni o'n
plentyndod Gruff Rhys!
Aeth fi ag Arwel
hefyd fyny i Langollen i gymryd rhan yn y cyngerdd carolau ar gyfer
Ty Gobaith. Oedd hi'n sicr yn noson oer gaeafol lle oni'n falch mod i
wedi prynnu'r siwmper i gadw fi'n gynnes tra ar y llwyfan!
Ges i gyfle unwaith
eto i ddod ar siwmper allan pan gafo ni alwad i fod ar raglen Huw
Edwards 2011 – perfformwyd 'Darlun' wrth i'r panel drafod
digwyddiadau'r flwyddyn a fu.
Siawns unwaith eto
i gwrdd a un o'n arwyr ni – o'r byd chwaraeon tro hwn – neb llai
na Mr Gareth Edwards!
© Mei Lewis Photography 2011
Cyfle unwaith eto i
edrych nol ac wrth gwrs hefyd edrych mlaen ar gyfer be ddaw yn 2012!
Hwyl
Al, Arwel a'r bois
x