Sunday 12 June 2011

Y Gwanwyn - Gigs a Nodyn


Helo na,
Dwi newydd sylwi fod hi'n reit hir ers i mi sgwennu rhywbeth fyny fan hyn yn y Gymraeg.
Felly nai gychwyn drwy son am y sesiwn oedde ni ar fin neud y tro dwetha i mi siarad efo chi.
Mi es i a'r hogie fewn i BBC Radio Cymru fel gwesteion ar raglen C2 Huw Stephens lle nathom ni berfformio pedair cân. Fe allwch wrando arnynt yn eu gyfanrwydd drwy fynd draw i: http://bbc.in/kIbkQE
Yr wythnos wedyn ges i'r anrhydedd o ennill y wobr am 'artist gwrywaidd' y flwyddyn yng nghwobrau RAP Radio Cymru - http://bbc.in/dWVFFc
Mi odd i'n ddiwrnod eitha brysyr ar y 18ed o Ebrill - dyna pryd ddoth yr albwm 'Ar Gof a Chadw' allan (ellwch chi'w lawrlwytho o Amazon - http://amzn.to/kqs6gG / iTunes - http://bit.ly/kaObXS neu drwy fynd i http://www.sadwrn.com/
a natho ni gychwyn drwy fynd draw i'r BBC yng Nghaerdydd unwaith eto! Tro ma oedde ni yne fel gwesteion Dafydd a Caryl sy'n cyflwyno'r rhaglen yn y bore (http://bbc.in/mdliSJ). Yn y pnawn wedyn aetho ni draw i Lanelli er mwyn perfformio ar y rhaglen Wedi 7.

Ym mis Mai natho ni perfformio cryn dipyn o gwmpas Cymru. Ar y penwythnos gwyl y banc oedde ni'n brysyr yn ffilmio ar gyfer y gyfres newydd o 'Nodyn' o le mae'r lluniau uchod'n dod o. Gan fod yr albwm yn son am y syniad o berthyn a'r teimlad o hiraeth mae rhywun yn gael wrth hel hen atgofion a edrych drwy hen luniau mi nath y tîm cynhyrchu dod fyny efo'r syniad o cael gyfres o hen luniau i ddod fyny ar y van tu ol i ni wrth i ni ganu.
Dwi'n edrych ymlaen i weld syt neith o droi allan!!

Dros y mis nesa ma rwan mi fydde ni'n perfformio ym mhob cornel o Gymru. O Bwllheli hyd at Pontardawe, ewch draw i'r dudalen gigs i weld lle byddwn ni a phryd!

Al