Sunday 27 March 2011

Ar Gof a Chadw - Ail Albwm (18.04.11)


Noswaith Dda,
Gobeithio nath pawb cofio troi'r clociau mlaen bore ma a llenwi'r Census fewn hefyd wrth gwrs!! Oddi hi sicr yn gysur i mi weld hi'n dal i fod yn olau hyd at 8 o'r gloch heno ma. Mae'r gwanwyn gobeithio ar y gweill rwan. Dwi nol yng Nghaerdydd heddiw ma gan fy mod i ag Arwel a Sion am recordio sesiwn acwstig ar gyfer C2 Radio Cymru pnawn fory a ddylse fod yn mynd allan ar rhaglen Huw Stephens wythnos i fory sef Nos Lun, 4ydd o Ebrill. Da ni am neud cwpl o hen ganeuon a cwpl o rhei newydd oddi ar 'Ar Gof a Chadw' fel rhagflas at y dyddiad rhyddhau o'r 18ed o Ebrill. Mae'n dod at adeg eithaf cyffroes i ni fel band rwan, da ni'n cychwyn giggio unwaith eto wythnos nesa, yn cychwyn yn 'Y Llangollen' ym Mhethesda ar nos Wener ac yne'n mynd draw i'r Whitehall ym Mhwllheli ar nos Sadwrn yr 2il o Ebrill. Mae'r gigs ma yn rhei o'r rhei cyntaf lle fydde ni'n chwarae deunydd newydd oddi ar yr ail albwm ac mae o hyd yn sefyllfa ddiddorol i fod ynddo fel band pryd ydech chi'n rhoi caneuon newydd yn y set i weld beth fydd ymateb pobl iddynt. Er fod y caneuon yn eithaf gyfarwydd i ni erbyn hyn, wrth gwrs does lawer o neb arall wedi'w clywed nhw tu allan i ni'n pedwar!
Felly os ydech chi o gwmpas penwythnos nesaf - dewch yn llu i barnu'r caneuon newydd!

Os hoffech chi rhag-archebu eich copi o 'Ar Gof a Chadw' mi ellwch chi neud rwan oddi ar y wefan Sadwrn.com. Fedrwch chi hefyd darllen cyfweliad nathom ni efo'r cylchgrawn 'Y Selar' yn eu rhifyn diweddaraf (Ebrill 2011) sydd ar gael i'w ddarllen ar-lein oddi ar y wefan http://www.y-selar.com/

Hwyl am y tro
Al, Arwel, Sion a CJ xx