Wednesday 12 February 2014

Albwm Newydd - Heulwen o Hiraeth

Yn ystod y broses o recordio'r albwm newydd yma, un peth a oedde ni gyd yn ffeindio hi'n anodd credu oedd y ffaith fod hi'n 3 mlynedd bellach ers i ni rhyddhau 'Ar Gof a Chadw'...fel ma amser yn fflio!

Cychwyno ni'r gwaith (fi ag Arwel) o fynd ati i sgwennu'r caneuon nol yn mis Awst 2012 wedi'r gemau Olympaidd dod i ben. Gafo ni rhyw 3 neu 4 o sesiynnau sgwennu unai yma yn Llundain neu yn Llanelli lle mae Arwel yn byw, aethom ni hefyd nol i Solffach yn Sir Benfro am dridiau lle sgwenno ni cwpl o'r caneuon oddi ar yr albwm dwetha. Natho ni dreulio 2 ddiwrnod yn y MusicBox yng Nghaerdydd yn cyflwyno'r caneuon i Sion a CJ sef y hogie sy'n chwarae bas a dryms. Gan ein bod ni fewn y noson ar ol Gŵyl San Steffan gafo ni'r lle i ni'n hunain!!

Ath ni ati i gychwyn recordio ar yr 2il o Ionawr yn stiwdio Mei Gwynedd (Sibrydion) yng Nghaerdydd. Dyma fo'r dyn ei hun...


Arwel yn trio allan y banjo...!



Yn gyntaf recordwyd y dryms, bas a'r gitar acwstig i gyd efo'i gilydd yn fyw.



Tra o ni'n canu yn y stafell bach yma efo'r enwogion ar y wal...!

 
Yn y gorffenol da ni wedi gwahodd unigolion fel Meic Stevens a Elin Fflur i ganu ar un o'r caneuon ar yr albwm. Tro yma dwi'n falch o fedru deud mai Gwyneth Glyn fydd yn ymddangos. Dwi'n hoff iawn o'r ddeuawd ac mai sicr un o'n hoff ganeuon i o'r casgliad.
Gafo ni hefyd Gareth Thorrington i chwarae'r allweddellau a Lucy Morgan i chwarae'r fiola.  

 
Am y tro cyntaf ar yr albwm yma hefyd da ni wedi cynnwys caneuon pobl eraill.
Yn hytrach na datgelu be yn union da ni wedi dewis mi wnai adael i chi ddyfalu efo bach o gymorth....ma'r dewis cyntaf yn dod o albwm sy'n dathlu 40 mlynedd yn 2014 ers iddo cael ei rhyddhau - dyma'r darlun enwog oedd ar y clawr


 Ma'r ail gan yn gysyllstiedig efo...


ac yn olaf ma genno ni rhywbeth gan y hogie yma -


Wedyn ar y penwythnos olaf ddoth Sarah Howells (Paper Aeroplanes) i fewn er mwyn rhoi ychydig o leisiau cefndir lawr. Ar yr rhu'n pryd gwahoddwyd criw rhaglen Heno (S4C) fewn i weld syt oedde ni'n dod mlaen efo'r recordio.

Mae'r caneuon bellach yn nhwylo Llion Robertson sy'n gyfrifol am eu cymysgu nhw.
Unwaith ma'r broses yna di dod i ben fydd rhaid mastro a wedyn fydd y prosiect wedi'w gwblhau.
Dwi'n edrych mlaen yn fawr iawn at rhyddhau ein drydydd albwm Cymraeg a'n bwysicach fyth medru ychwanegu caneuon newydd i fewn i'r set byw...!!

Monday 22 April 2013

Taith Gwanwyn 2013

Dwi'n edrych mlaen yn arw at y cyfres o gigs sydd gennai'n dod fyny yn y pythefnos nesa wrth i mi deithio o gwmpas Cymru gyfan. Mi fyddai'n cychwyn y daith nos Iau yma fyny yn Wrecsam fel rhan o'r wyl FOCUS lle fyddai'n rhannu'r llwyfan gyda neb llai na Charlotte Church. Welai chi gyd rhywle yn ystod y daith gobeithio! Mi fydd Gildas yn cefnogi fi ar rhan o'r daith - mae o ar fin rhyddhau ei ail albwm 'Sgwennu Stori' felly newch yn siwr eich bod yn cyrraedd yn gynnar!

Iau 25ain Ebrill - FOCUS Cymru, Wrecsam
Gwe 26ain Ebrill - Blue Sky Cafe, Bangor * ^^
Sad 27ain Ebrill - Ty Siamas, Dolgellau ^^
Sul 28ain Ebrill - The Hours Café, Aberhonddu **
Llun 29ain Ebrill - Glee Club, Caerdydd
Maw 30ed Ebrill - Theatr Mwldan, Aberteifi
Iau 9ed Mai - Parrot Bar, Caerfyrddin
Gwe 10ed Mai - Drwm, Llyfrgell Gen, Aberystwyth ^^
Sad 11ed Mai - Queens Hall, Arberth (cefnogi Paper Aeroplanes)


* - wedi gwerthu allan
** - wedi symyd o'r Guildhall bellach i'r Hours Café

^^ - gyda chefnogaeth gan Gildas



Monday 10 December 2012

Clychau'r Ceirw - Sengl Dolig


Ma'n sengl Nadolig ni 'Clychau'r Ceirw' allan heddiw i'w lawrlwytho oddi ar iTunes - ma'r elw i gyd yn mynd at Ty Gobaith - achos teilwng iawn. http://www.hopehouse.org.uk/care/ty-gobaith-facilities

Friday 23 November 2012

Ty Tawe - Abertawe

Gig Acwstig wythnos i heno yn Nhy Tawe, Abertawe gyda Gildas.
Am docynnau ffoniwch - 01792 456856
Cychwyn am 8:30 y.h.

Tuesday 17 April 2012

Taith ledled Cymru gyda'r 'Awyrennau Papur'



Hello pawb!

Dwi newydd dod nol o dreulio pythefnos yn Nashville, Tennesse yn recordio fy albwm nesaf.
Mi odd hi'n brofiad anhygoel cael gweithio gyda cherddorion mor dalentog a tra oni yna wnes i sgwennu blog bach, felly os hoffech chi ddarllen mwy am fy amser yn yr Unol Daleithiau yna ewch draw i - http://allewismusic.posterous.com/
Fedrwch hefyd weld amryw o luniau neshi gymryd tra allan yna : http://flic.kr/s/aHsjyV5XPA

Rwan dwi nol ac yn barod i ymadael ar daith a fydd yn mynd a fi ar draws Gymru gyfan efo fy nghyfeillion 'Paper Aeroplanes'. Mae Sarah (a wnath lleisiau cefndir ar yr albwm diweddaraf 'Ar Gof a Chadw') yn wreiddiol o Aberdaugleddau a Richard o Aberteifi ac mae nhw wedi rhyddhau dau albwm o safon yn barod ac ar fin wneud eu drydedd.
Da ni'n chwarae mewn lleoliadau hyfryd felly byddwch yn siwr o cael eich tocynnau'n gynnar rhag cael eich siomi!
Mae'r holl manylion ar fy wefan: http://www.allewismusic.com

Dyddiadau Byw
Gwe 4ydd Mai - Acapela, Pentyrch - cliciwch yma
Sad 5ed Mai - Parrot, Caerfyrddin - cliciwch yma
Iau 10ed Mai - Llew Du, Aberystwyth - cliciwch yma
Gwe 11ed Mai - Blue Sky Cafe, Bangor - cliciwch yma
Sad 12ed Mai - Ty Siamas, Dolgellau - cliciwch yma
Gwe 8ed Mehefin - Theatr Grand Abertawe - cliciwch yma
Sad 9ed Mehefin - Theatr Torch, Aberdaugleddau - cliciwch yma


Cofion cynnes

Al

Tuesday 7 February 2012

Gigs Ifor Bach yn cyflwyno.....





Gig Cyntaf 2012
Nos Fercher 8ed Chwefror - 
Gwdihw, 6 Guildford Crescent, Caerdydd CF10 2HJ
Drysiau am 8y.h 
Mynediad £4

Wednesday 4 January 2012

Y Flwyddyn a fu....


Croeso i 2012!
Dyma'r adeg o'r flwyddyn lle mae pobl yn dueddol o edrych nol. Gweithgaredd da ni fel band yn gyfarwydd iawn efo erbyn hyn, gan fod ein albwm 'Ar Gof a Chadw', ddoth allan yn 2011 wedi ei seilio ar yr syniad yma o edrych nol, a'r teimlad o berthyn a sut mae hyn yn newid wrth i ni fynd yn hŷn.

Mae hi'n flwyddyn bellach ers i ni gwblhau'r albwm hon a mae hi di bod yn flwyddyn lwyddiannus i ni fel band yn 2011. I orffen y cwbl ddoe; cafo ni'r newyddion gwych ein bod ni wedi dod i’r brig yn 'Siart C2' y flwyddyn (2011), anrhydedd mawr o gysidro'r holl gynnyrch da Cymraeg sydd wedi ei ryddhau yn ystod blwyddyn dwetha.

Mi nath hyn sbarduno'r awen i mi ysgrifennu blog newydd, wedi i mi sylweddoli fod hi'n 6 mis ers y blog dwethaf! Fel mae amser yn mynd heibio!
Gafo ni gychwyn da i 2011 hefo'r newyddion ein bod am fod ar glawr 'Y Selar' ar gyfer rhifyn cyntaf y flwyddyn - http://www.y-selar.com/products/rhifyn-ebrill-11-/

Ym mis Ebrill enillon ni'r wobr RAP am artist gwrywaidd y flwyddyn a lawnsiad swyddogol ar gyfer 'Ar Gof a Chadw'.
Aethom ni hefyd, fel gwesteion ar rhaglen C2 Huw Stephens a neud set acwstig iddo -

Ar ddiwedd y blog dwetha oni di son am y ffaith ein bod ni wedi bod yn brysyr yn ffilmio ym Mhrestatyn ar gyfer y gyfres diweddaraf (bellach olaf!) o 'Nodyn'.


Cafodd y gyfres honno ei darlledu dros yr haf ac roedd yr oriau dreuilwyd yn sefyll yn yr oerni ar glaw wedi bod yn werth chweil wedi i ni weld y rhaglen orffenedig.
Hefyd fe perfformio ni 'Darlun' ar Wedi7 - http://youtu.be/Zhpk-c1FfrM

Yn mis Mehefin gafo ni gyfres o perfformiadau byw ac hefyd ar gyfer y teledu gan gynnwys 'Ar Gamera' a 'Noson Lawen' sydd dal ar clic gyda llaw! - http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?programme_id=496955624

























Gafo ni glywed hefyd fod S4C am ddefnyddio'r gan 'Darlun' ar gyfer hysbysebu digwyddiadau'r sianel dros yr haf! 



Ym mis Gorffennaf aethom ni draw i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd i rhoi cymorth i grwp o ddisgyblion a oedd newydd cychwyn band o'r enw 'Tiwn', da oedda nhw fyd!
Ges i hefyd y cyfle i fynd i'r Sioe Frenhinol am y tro cyntaf yn fy mywyd – diddorol iawn oedd o hefyd!!

Mis Awst a Eisteddfod Wrecsam!
























Cychwyno ni ar Nos Lun yn y Pafiliwn efo'r 'Cyngerdd Clasuron Pop' yng nghwmni rhai o gewri'r sin fel CPJ, Meic a Chis, ma hwn hefyd ar clic!
Llanwyd gweddill yr wythnos wedyn hefo cymysgedd o berfformiadau ar y maes a hefyd cyngherddau yn y nos ar gyfer 'Cymdeithas yr Iaith' a Maes B wrth gwrs! Nos Fercher welodd y cynifer mwyaf o gigs i Sion Llwyd ar y bas – 3 set mewn 1 noson (a 5 arall yn y dydd) – phew!!!




















Yn mis Medi wedyn cafodd 'Ar Gof a Chadw' ei lawnsiad cenedleuthol llawn a ddoth Shan Cothi draw i ngweld i yn Llundain ar gyfer y gyfres Bro a oedd yn trafod Cymru Llundain!

Ges i wahoddiad hefyd yn mis Medi fewn i stiwdios Gofod i weld Elen a Geth i drafod y ffaith fod fy albwm Saesneg 'In the Wake' wedi cyrraedd y rhestr-fer ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg gyntaf!

Yn mis Hydref chwaraeo ni set yng Nghwyl Sŵn yng Nghaerdydd a gafo ni ymateb ffafriol gan y Wasg di-Gymraeg ar ffurf y cylchgrawn MMP a ddewisiodd 'Ar Gof a Chadw' fel 'Albwm y Mis'.
http://themmp.tv/reviews/al-lewis-band-ar-gof-a-chadw/

Yn mis Tachwedd perfformiodd y band fel rhan o noson arbennig yn Eglwys St Ioan yn Nhreganna, Caerdydd gyda Zervas & Pepper a Ivan Moult. Lleoliad gwych ar gyfer cerddoriaeth acwstig!



















Ym mis Rhagfyr gafo ni wahoddiad i fod yn westeion ar raglen Dolig C2 Huw Stephens ble perfformio ni bedair cân yn cynnwys 1 gân newydd Nadoligaidd gwreiddiol o'r enw 'Clychau'r Ceirw'.
Fe allwch wylio fideos or noson yn eu cyfanrwydd drwy fynd draw i:
Mi oedd hi hefyd yn fraint cael rhannu'r llwyfan am y tro cyntaf efo un o'n arwyr ni o'n plentyndod Gruff Rhys!


















Aeth fi ag Arwel hefyd fyny i Langollen i gymryd rhan yn y cyngerdd carolau ar gyfer Ty Gobaith. Oedd hi'n sicr yn noson oer gaeafol lle oni'n falch mod i wedi prynnu'r siwmper i gadw fi'n gynnes tra ar y llwyfan!

Ges i gyfle unwaith eto i ddod ar siwmper allan pan gafo ni alwad i fod ar raglen Huw Edwards 2011 – perfformwyd 'Darlun' wrth i'r panel drafod digwyddiadau'r flwyddyn a fu.
Siawns unwaith eto i gwrdd a un o'n arwyr ni – o'r byd chwaraeon tro hwn – neb llai na Mr Gareth Edwards!




















© Mei Lewis Photography 2011

Cyfle unwaith eto i edrych nol ac wrth gwrs hefyd edrych mlaen ar gyfer be ddaw yn 2012!

Hwyl

Al, Arwel a'r bois x